Cam 2: Profi rhagdybiaethau cychwynnol
Mae’n debygol bydd cyfnod hir rhwng llenwi holiadur cychwynnol a’r holiadur terfynol.
O ganlyniad, gall gwirfoddolwyr, gyda chaniatâd partneriaid lleol ac unrhyw rhanddeilliaid eraill, cwblhau un neu fwy o ddulliau arfarnu cyflym i asesu pa wahaniaeth maent yn gwneud, neu beidio, yn ystod eu hymweliad.
Trwy gyflawni’r gweithgareddau yma yn ystod eu hymweliad, mae gwirfoddolwyr yn gallu cywiro unrhyw gamddealltwriaethau a gwella’u gwaith, tra hefyd yn cynnig adborth a chyngor defnyddiol i’r sefydliad sy’n eu croesawi a’r sefydliad maent yn cynrychioli.
Gellir ffeindio technegau defnyddiol fel y llinell gwerthfawrogi, pleidleisio llaw ar y fron, a bocsys barn ar y dudalen hon.
Mae nifer o dechnegau defnyddiol eraill, er enghraifft:
- Y newid mwyaf sylweddol (cryno)
- Cyfweliadau cyflym
- Arsylwi cyfranogwyr
- Log dysgu/adfyfyriol
Cliciwch ar y technegau uchod am fwy o wybodaeth. (Mae’r tudalennau dal yn Saesneg ar hyn o bryd).
Dylid nodi bod arsylwi cyfranogwyr yn broses parhaus, mae gwirfoddolwyr yn gwneud hyn hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol ohoni. Mae gwirfoddolwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i arsylwi cyfranogwyr gan y dylent, ar ôl cyfnod, integreiddio mewn i’r gymuned leol.
Gallai’r dull ‘newid mwyaf sylweddol’ bod yn ddefnyddiol gan ei bod hi’n gysylltiedig i’r holiaduron blaenllaw.
Log neu ddyddlyfr adfyfyriol
Yr unig dechneg heb gael ei thrafod hyd yn hyn yw’r log adfyfyriol. Dyma dechneg mae nifer o sefydliadau gwirfoddoli yn annog yn barod. Mae nifer o wefannau yn cynnig cyngor defnyddiol ynglŷn â logiau adfyfyriol. Er enghraifft:
- Australian Education Department
- Dwight Hall at Yale
- Brown (2015)
- Gateway Technical College
Mae’n debyg byddech chi’n cofnodi nifer o fyfyrdodau yn ystod eich ymweliad, er engrhaifft:
- Beth yw trefn dydd arferol?
- Beth oedd uchafbwyntiau, adegau isel ac adegau tawel heddiw/yr wythnos hon?
- Beth ddigwyddodd heddiw/yr wythnos hon rydych chi’n gwerthfawrogi a pham?
- Pa bethau da sydd wedi digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf/yr wythnos hon?
- Pa newidiadau ydych chi wedi cyflawni heddiw/yr wythnos hon/y mis hwn a sut ydych chi’n gwybod hyn?
Unwaith i chi benderfynu a chwblhau rhai o’r technegau uchod i brofi eich rhagdybiaethau, ewch ymlaen i Gam 3.