Cam 1: Holiaduron Cychwynnol

Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau gwirfoddoli yn barod yn cwblhau holiaduron ar gychwyn a diwedd prosiectau, maent yn dechneg monitro a gwerthuso defnyddiol iawn.

Er hynny mae nifer o’r holiaduron yma yn ffocysu ar ddatblygiad personol, derbyn profiadau bywyd a gwella cyfleodd gyrfa’r gwirfoddolwyr.

Tra bod hyn yn ddealladwy, nid yw’n cynnig templed sylfaenol na mecanwaith effeithiol i wirfoddolwyr i ddysgu beth sydd yn llwyddiannus neu beidio i’r gymuned maent yn ymweld â.

Mae’r dechneg 1-2-3 yn awgrymu bod holiaduron cychwynnol hefyd yn cynnwys cwestiynau ynglŷn â dealltwriaeth gwirfoddolwyr o’r prosiect a’r rhagdybiaethau sy’n ei thanategu.

Mae’n debygol bydd y ddealltwriaeth hon yn isel ond dylai gofyn cwestiynau yn gynnar annog gwirfoddolwyr i ystyried yr atebion a bod yn fwy effeithiol yn ystod eu hymweliad, yn ogystal â chael mwy o allu i gynnig cyngor i wirfoddolwyr sy’n dilyn yn eu camau.

Gweler yr holiadur isod.  Gellir lawr lwytho fersiwn PDF i’w yma.

_________________________________________________________________________

Holiadur Cychwynnol

Dylai gwirfoddolwyr llenwi’r holiadur hon cyn iddynt ddechrau’u hymweliad.  Rhannwch y wybodaeth gyda’ch sefydliad gwirfoddoli a thrafodwch yr atebion gyda’r sefydliad sy’n eich croesaw

1)Beth yw prif bwrpas eich ymweliad? Ticiwch un ateb yn unig.

  • Helpu lleihau tlodi
  • Darparu hyfforddiant
  • Meithrin gallu
  • Meithrin diben cymunedol
  • Datblygiad personol
  • Arall: esboniwch eich ateb.

Nodwch y rhesymau pam, ac ar sail pa ragdybiaethau dewisoch chi’r ateb uchod:

_________________________________________________________________________

2) Beth ydych chi’n disgwyl bydd y newid mwyaf sylweddol byddech chi’n gweld?

_________________________________________________________________________

3) Sut byddech chi’n cyflawni’r newid hon?

_________________________________________________________________________

4) Pa newidiadau eraill ydych chi’n disgwyl cyflawni?

_________________________________________________________________________

5) I ba radd ydych chi’n disgwyl bydd eich gwaith gwirfoddol yn cyfrannu at ddatrysiadau cynaliadwy i’r cymunedau lleol?

_________________________________________________________________________

6) Pa nodweddion/ profiadau / cymwysterau sydd gennych chi y gallent fod o fudd yn eich rôl?

_________________________________________________________________________

7) Pa agweddau o’r rôl ydych chi’n disgwyl bydd y mwyaf heriol?

_________________________________________________________________________

8) Pa heriau eraill ydych chi’n disgwyl wynebu?

_________________________________________________________________________

9) Sut bydd y profiad gwirfoddoli hwn yn cyfrannu tuag at eich datblygiad personol (profiad dysgu, datblygu sgiliau, cyfleoedd gyrfa)?

_________________________________________________________________________

10) Nodwch unrhyw sylwadau gan eich sefydliad gwirfoddoli neu’r sefydliad sy’n eich croesawi:

_________________________________________________________________________


Unwaith i chi ddeall pwrpas holiadur blaenllaw, ewch i’r cam nesaf yma