Amdanon ni

Photo by Hans-Peter Gauster on Unsplash

Mae’r gwefan hon wedi cael ei datblygu gan broffeswr Gordon Cumming o Brifysgol Caerdydd. Mae Cumming wedi gweithio gyda chyrff anllywodraethol a sefydliadau elusennol Ffrengig ers dros 15 mlynedd.

Hanes

Tarddodd y prosiect hwn gyda’r syniad y gall dulliau casglu data ‘meddal’ y defnyddir gan gyrff anllywodraethol Ffrengig cael eu trosglwyddo i gyrff anllywodraethol eraill.  

Datblygodd y syniad ymhellach pryd cafodd Gordon ei ofyn i sefydlu math o becyn cymorth gan Gelfyddydau Cymuned Cwm a Bro, corff anllywodraethol, a Hub Cymru Affrica, corff cydgysylltu yr holl gyrff anllywodraethol yng Nghymru.  Dylai’r pecyn cymorth fod yn addas ar gyfer cyrff anllywodraethol bach gydag unrhyw amheuon ynglŷn â monitro a gwerthuso.

Cychwynnodd Cumming drwy gysylltu gyda F3E, uned hyfforddi cyrff anllywodraethol Ffrainc, yn ogystal âg arbenigwyr yn yr un faes yng Nghymru.  O ganlyniad i’r trafodaethau yma, penderfynodd Cumming creu proses tri cham (y Dull 1-2-3) fel ffordd o hwyluso a symleiddio’r broses o fonitro a gwerthuso. 

Ar ôl nifer o drafodaethau gyda chyrff anllywodraethol Cymraeg fe ddaeth yn glir gellir symleiddio a chyflymu’r broses ymhellach.  O ganlyniad, mae’r pecyn cymorth hon yn cynnwys Dull 1-2-3 Cyflawn (sydd yn aml beth mae rhoddwyr yn gofyn amdani), yn ogystal â Dull 1-2-3 Cyflym (sy’n ddefnyddiol ar gyfer gwerthusiad gloi gan gyrff anllywodraethol a sefydliadau elusennol).

Defnyddio’r Pecyn

Dylai’r pecyn cymorth hon fod o fudd i ran fwyaf o gyrff anllywodraethol a sefydliadau elusennol.  Nid yw’n cymryd yn ganiataol bod unrhyw ymwybyddiaeth na dealltwriaeth flaenorol o’r broses monitor a gwerthuso gan ddefnyddwyr. Dylai hefyd helpu esbonio rhai o’r cysyniadau a thermau y defnyddir ynghylch monitro a gwerthuso.  

Mae’r pecyn cymorth hon yn cynnig templedi, tudalen geirfa, enghreifftiau defnyddiol a chysylltiadau i amryw eang o ffynonellau defnyddiol a phecynnau cymorth eraill.  Dylai’r wefan bod yn hawdd i’w darllen ar gyfrifiadur a dyfeisiau symudol.

Bydd y pecyn cymorth a’r Dull 1-2-3 yn parhau i ddatblygu ac yn buddio o ganlyniad i adborth ac astudiaethau achos gan ddefnyddwyr.  Gweler y dudalen ‘Cysylltu’ am fwy o wybodaeth.

Mae’r pecyn cymorth yn cydnabod nid yw monitro a gwerthuso yn broses du a gwyn ac nid yw pob prosiect yn datblygu fel y disgwylir.  Serch hynny, mae’r gwefan yn cychwyn o’r safbwynt ei bod hi’n well cydnabod y problemau a’u gwella, nag anwybyddu problemau gall cael effaith negyddol iawn ar eich prosiect yn y pen draw.

Cyllido

Noddir y prosiect hon gan grant impact Cyngor ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).

Ymchwil Cefndirol

  • French NGOs in the Global Era: A Distinctive Role in International Development, Palgrave, Basingstoke, 2009).
  • French NGOs in the Global Era: Professionalization ‘‘Without Borders’’?,Voluntas: International Journal of Voluntary and Non-Profit Organizations vol. 19, no. 4, 2008, 372-394.
  • ‘A Prototypical Case in the Making? Challenging Comparative Perspectives on French Aid’, The European Journal of Development Research, 2017, Vol. 29, no.  1, pp. 19-36.
  • ‘Good intentions are not enough: French NGO efforts at democracy building in Cameroon’, Development in Practice, vol. 21, no. 2, 2011, 218-33.