1-2-3 Cyflym: Dulliau arfarnu cyflym & hunanwerthusiad (sefydliadau gwirfoddoli)

Efallai nad oes gennych chi digon o adnoddau i gomisiynu gwerthusiad annibynnol, neu nad oes gennych chi’r amser nag arbenigedd i gwblhau’r Dull 1-2-3 Llawn.

Efallai hoffech chi ddeall sut mae eich prosiect yn datblygu a sicrhau nid yw’n gwneud niwed.  Rydych yn ceisio adnabod unrhyw newidiadau positif (y gallai hyn helpu sicrhau nodd a buddsoddiadau yn y dyfodol). Neu rydych yn awyddus i ddarganfod pa agweddau o’r prosiect sydd ddim cystal oherwydd mae hi’n bosib bydd amser cywiro unrhyw broblemau.

Os ydy’r datganiadau uchod yn canu cloch, ystyriwch ddefnyddio’r Dull 1-2-3 Cyflym. Mae hi’n ddull cyflym iawn a syml o fonitro a gwerthuso ar gyfer cyrff anllywodraethol, sefydliadau gwirfoddoli a gwirfoddolwyr annibynnol.


Dulliau arfarnu cyflym & hunanwerthusiad (sefydliadau gwirfoddoli)

Mae nifer o’r technegau gwerthuso sy’n hunanwerthusiad gyda defnyddio systemau metrig a theori yn llai defnyddiol ar gyfer sefydliadau gwirfoddoli; yn enwedig rheini sy’n anfon gwirfoddolwyr unigol (yn lle grwpiau o wirfoddolwyr) i bentrefi penodol am gyfnodau cyfyngedig.

Yn amlwg, mae hi’n bosib i wirfoddolwyr dylunio fframwaith rhesymeg neu theori newid (mae’r holiadur yn cychwyn try ofyn am ragdybiaethau), ond i nifer o bobl, yr ymweliad bydd eu tro cyntaf yn ymweld â gwlad lai economaidd datblygedig ac felly bydd mwy o bethau iddynt ddelio gyda na thaith arferol.

Mae fframwaith monitro a gwerthuso syml yn debyg o fod yn fwy defnyddiol os yw grŵp o wirfoddolwyr yn cael ei anfon i’r un ardal neu angen cwblhau’r un gweithgareddau. Serch hynny, yn yr adran hon, rydym yn cymryd bod y gwirfoddolwr yn teithio ar ben ei hun, er ei bod yn cynrychioli sefydliad gwirfoddoli a’i phartner tramor.

Cam 1

Cam 2

Cam 3