Cymraeg

Ar hyn o bryd rydym yn datbygu’r wefan trwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler rhai o’r adnoddau yma:

Amdanon Ni

Dull 1-2-3 Cyflym (ar gyfer sefydiadau gwirfoddoli)

Croeso

Mae yna nifer o ganllawiau a phecynnau cymorth ar-lein gwych sy’n cyflwyno defnyddwyr i’r broses monitro a gwerthuso.  Maent yn ddefnyddiol ond mae nifer yn cymryd yn ganiataol eich bod yn deall llawer am y broses yn barod.

Mae’r pecyn cymorth hon yn cymryd nad oes gennych unrhyw ddealltwriaeth flaenorol o fonitro a gwerthuso.  Mae’n symleiddio rhai o’r derminoleg ac yn cynnig enghreifftiau o’r broses.  Yn bwysicach oll, mae’n cynnig proses tri cham, y Dull 1-2-3. 

Mae’r Dull 1-2-3 yn gynhwysfawr ac yn aml yn cwrdd â gofynion noddwyr, a gellir hefyd ei defnyddio am werthusiadau cyflym, neu hunanwerthusiadau gan gyrff anllywodraethol a sefydliadau gwirfoddoli. 

Beth sydd yn y pecyn hwn?

Dylai’r pecyn hon bod yn ddefnyddiol ar gyfer y rhan fwyaf o gyrff anllywodraethol a sefydliadau gwirfoddoli. Nid yw’n cymryd yn ganiataol bod gennych unrhyw ddealltwriaeth flaenorol o’r derminoleg na chysyniadau ynghylch monitor a gwerthuso. 

Mae’r pecyn yn cynnwys llawer o arweiniad ynglŷn â fframweithiau monitor a gwerthuso traddodiadol, tiwtorial cam wrth gam yn esbonio’r Dulliau 1-2-3 Cyflawn a Chyflym; wedi ei hysgrifennu mewn modd dealladwy a hawdd-ei-defnyddio. Mae hi hefyd yn cynnwys templedi, rhestr geirfa, esiamplau, dogfennau gellir eu lawr lwytho, profion a linciau i ystod eang o ffynonellau gwych a phecynnau cymorth eraill.  Gallech ddefnyddio’r wefan ar gyfrifiaduron a theclynnau symudol. 

Mae’r pecyn cymorth yn cydnabod nid yw monitro a gwerthuso yn broses du a gwyn ac nid yw pob prosiect yn datblygu fel y disgwylir.  Serch hynny, mae’r gwefan yn cychwyn o’r safbwynt ei bod hi’n well cydnabod y problemau a’u gwella, nag anwybyddu problemau gall cael effaith negyddol iawn ar eich prosiect yn y pen draw.

Bydd y pecyn cymorth a’r Dull 1-2-3 yn parhau i ddatblygu ac yn buddio o ganlyniad i adborth ac astudiaethau achos gan ddefnyddwyr.  Gweler y dudalen ‘Cysylltu’ am fwy o wybodaeth.

I bwy mae’r pecyn cymorth?

Mae’r pecyn cyflwyniadol i fonitro a gwerthuso hon yn ceisio cadw’r broses yn syml. Am hynny, mae’n ddelfrydol ar gyfer:

  • Cyrff anllywodraethol bach a chanolog sy’n gweithio ym maes datblygiad rhyngwladol.
  • Unrhyw unigolyn, elusen ddomestig neu sefydliad gydag amheuon neu wedi anobeithio gyda fonitro a gwerthuso.
  • Defnyddwyr sy’n gyfarwydd a monitro a gwerthuso sy’n agored i ddarganfod dulliau newydd o ddysgu, monitro a gwerthuso eu gwaith.
  • Unrhyw sefydliad sy’n ceisio integreiddio gwerthuso i’w gwaith, neu sydd angen arddangos eu defnydd o’u cyllid a rhodd-daliadau (cyhoeddus neu breifat).

Pa Ddull 1-2-3 sydd orau i chi?

Defnyddiwch y siart isod i benderfynu pa ddull sydd orau i chi: