Cam 3: Holiadur ‘diwedd y daith’
Mae’n syniad da llenwi eich holiadur terfynol cyn dychwelyd adref, neu os yw’n angenrheidiol, unwaith i chi ddychwelyd cartref. Mae’n well gwneud hyn cyn i chi ddychwelyd gan fydd hynny’n caniatáu i chi rhannu eich sylwadau gyda phobl leol a chyd-wirfoddolwyr.
Bydd eich profiadau a’r gwersi rydych chi wedi dysgu yn fanwl a byddech yn gallu rhannu’r gwersi rydych chi wedi dysgu, eich llwyddiannau a’r agweddau sydd angen mwy o ddatblygiad.
Nid ydych chi wedi gweddnewid y byd ond efallai rydych chi wedi helpu un person, un grŵp, un sefydliad neu un rhywogaeth (ffawna/fflora). Basau’n ddefnyddiol i gofnodi’r holl brofiadau yma, ac yn ddelfrydol, eu hadrodd yn ôl i’ch sefydliad gwirfoddol a phartneriaid/rhanddeilliaid lleol.
Mae’n bosib nid oes gan eich sefydliad gwirfoddoli digon o amser i brosesu holl adroddiadau gwirfoddolwyr. Mae hi hefyd yn debyg ni fydd gan nifer o wirfoddolwyr yr amser i ysgrifennu adroddiad. Nid yw hyn yn esgus i chi beidio cwblhau’r dasg. Hyd yn oed os nad yw eich sefydliad yn prosesu pob adroddiad, bydd y ddogfen yn gofnod o bopeth rydych chi wedi dysgu tramor. Fe dydd hi hefyd yn eich helpu i ddatblygu fel person a gellir eich annog chi, neu rheini o’ch amgylch, i gyflawni mwy o waith wirfoddoli yn y dyfodol.
Gweler fersiwn PDF o’r holiadur isod yma.
Holiadur ‘diwedd y daith’
Dylai gwirfoddolwyr llenwi’r holiadur hon cyn iddynt adael. Rhannwch y wybodaeth gyda’ch sefydliad gwirfoddoli a thrafodwch yr atebion gyda’r sefydliad rydych wedi ymweld â.
Beth ydych chi’n meddwl oedd prif bwrpas eich ymweliad nawr? Ticiwch un ateb yn unig.
- Helpu lleihau tlodi
- Darparu hyfforddiant
- Meithrin gallu
- Meithrin diben cymunedol
- Datblygiad personol
- Arall: esboniwch eich ateb.
Nodwch y rhesymau dros eich dewis, a sut/os mae eich rhagdybiaethau wedi newid:
_________________________________________________________________________
2) Beth oedd y newid mwyaf sylweddol? Sut ddigwyddodd hynny?
_________________________________________________________________________
3) Sut cyflawnoch chi’r newid hon?
_________________________________________________________________________
4) Pa newidiadau eraill cyflawnoch chi? Oes gennych chi esiampl?
_________________________________________________________________________
5) I ba radd roedd eich gwaith gwirfoddol yn cyfrannu at ddatrysiadau cynaliadwy i’r cymunedau lleol?
_________________________________________________________________________
6) Pa nodweddion/ profiadau / cymwysterau personol oedd o fudd yn eich rôl?
_________________________________________________________________________
7) Pa agweddau o’r rôl oedd mwyaf heriol/lleiaf llwyddiannus?
_________________________________________________________________________
8) Pa heriau eraill wyneboch chi?
_________________________________________________________________________
9) Sut wnaeth y profiad gwirfoddoli hwn cyfrannu at eich datblygiad personol?
_________________________________________________________________________
10) Gan ystyried eich profiad chi a’ch trafodaethau gyda’r sefydliadau gwirfoddoli cartref/tramor, sut gellir gwella ymweliadau yn y dyfodol?
_________________________________________________________________________